+
+ Datganiad Preifatrwydd
+
+
+
Diben yr hysbysiad preifatrwydd hwn
+
+ Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod data personol ein
+ cwsmeriaid yn cael ei drin yn unol â’r egwyddorion a
+ amlinellir mewn deddfau diogelu data.
+
+
+ Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn adlewyrchu gofynion
+ Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y Deyrnas
+ Unedig a Deddf Diogelu Data 2018, ac yn ymwneud â phob math
+ o waith achos sy’n cael ei drin gan Benderfyniadau Cynllunio
+ ac Amgylchedd Cymru.
+
+
Mae’n rhoi gwybod i chi ynghylch:
+
+ -
+ Manylion penodol yr arferion trin data personol ym
+ Mhenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) a’r
+ hyn y gallwch ddisgwyl i PCAC ei wneud â’r wybodaeth y
+ mae’n ei chasglu.
+
+ -
+ Pa wybodaeth bersonol rydym ni’n ei chasglu, sut rydym
+ ni’n ei chasglu, ei defnyddio, ei storio, ei rhannu a’i
+ gwaredu.
+
+ -
+ Gwybodaeth bersonol a ddarperir yn rhan o holl waith
+ achos PCAC y gallwch ei gwneud, neu wneud sylwadau arni,
+ neu a ddarperir gan Adrannau a Sefydliadau eraill y
+ Llywodraeth gan ddefnyddio unrhyw un o wefannau
+ Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru neu
+ ddulliau eraill.
+
+ -
+ Sut rydym yn prosesu unrhyw wybodaeth bersonol, gan
+ gynnwys data categori arbennig rydych wedi’i roi i ni’n
+ wirfoddol sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chi neu
+ wybodaeth unrhyw unigolyn trydydd parti arall y gallech
+ fod wedi’i rhoi mewn perthynas â gwaith achos PCAC.
+
+ -
+ Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn
+ ymdrin ag ystod o wahanol fathau o waith achos a
+ gyflwynir trwy Borth PCAC ac amrywiaeth o ddulliau
+ eraill e.e. post, trosglwyddiad digidol ac e-bost.
+
+
+
+ Mae Porth PCAC yn ymdrin ag ystod o waith achos (fel y
+ cofnodir yn Atodiad A).
+
+
+ Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am sut rydym yn prosesu
+ gwybodaeth bersonol wrth ymdrin â chwynion.
+
+
+ Gallai’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn gael ei ddiweddaru a/neu
+ ei ailgyhoeddi unrhyw bryd, a byddwn yn rhoi gwybod i chi am
+ unrhyw ddiweddariadau o’r fath trwy wefan GOV.UK a gwefan
+ PCAC.
+
+
+ Yn unol â’n disgresiwn, fe allem roi gwybod i chi trwy
+ ddarparu hysbysiad ‘mewn union bryd’ i ymdrin ag unrhyw
+ weithgareddau prosesu ychwanegol na chrybwyllir yn y ddogfen
+ hon.
+
+
Diffiniad o Ddata Personol
+
+ Mae GDPR y Deyrnas Unedig a Deddf Diogelu Data 2018 yn
+ berthnasol i brosesu data personol sy’n ymwneud ag unigolyn
+ (testun data) adnabyddedig neu adnabyddadwy y mae’r data
+ personol yn ymwneud ag ef:
+
+
+ -
+ Pan ellir adnabod testun y data yn uniongyrchol neu’n
+ anuniongyrchol o’r wybodaeth honno ar y cyd â gwybodaeth
+ arall.
+
+ -
+ Yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy ddulliau awtomataidd,
+ prosesu heblaw trwy ddulliau awtomataidd ddata personol
+ sy’n ffurfio rhan o system ffeilio, neu y bwriedir iddo
+ ffurfio rhan o system ffeilio.
+
+ -
+ Mae data personol dim ond yn cynnwys gwybodaeth sy’n
+ ymwneud â bod dynol y gellir ei adnabod neu sy’n
+ adnabyddadwy, yn uniongyrchol o’r wybodaeth dan sylw.
+
+ -
+ Gallai gwybodaeth am unigolion sy’n gweithredu fel unig
+ fasnachwyr, cyflogeion, partneriaid a chyfarwyddwyr
+ cwmni lle y gellir eu hadnabod yn unigol, ac mae’r
+ wybodaeth yn ymwneud â nhw fel unigolyn, fod yn gyfystyr
+ â data personol.
+
+
+
Nid yw’n cynnwys:
+
+ -
+ Achosion lle mae hunaniaeth cyfranogwyr wedi cael ei
+ dileu (data dienw).
+
+ - Gwybodaeth am unigolyn sydd wedi marw.
+ - Cwmnïau neu Awdurdodau Cyhoeddus
+
+
+ Mae “categorïau arbennig” o ddata personol (a adwaenwyd fel
+ “data personol sensitif” o dan y gyfraith diogelu data
+ flaenorol). Mae’r rhain yn fwy sensitif eu natur ac mae’n
+ rhaid eu trin mewn ffordd benodol o dan y ddeddfwriaeth.
+
+
Ymrwymiad polisi i fod yn agored ac yn dryloyw
+
+ Un o werthoedd sylfaenol Penderfyniadau Cynllunio ac
+ Amgylchedd Cymru yw eu hymrwymiad i fod yn agored ac yn
+ dryloyw mewn perthynas â’n rôl statudol wrth brosesu a
+ phenderfynu ar waith achos cynllunio a’r holl waith achos
+ arall cysylltiedig.
+
+
+ Mewn llawer o achosion, yn enwedig prosesau cynllunio, ceir
+ rhwymedigaethau sy’n mynnu ein bod yn rhannu’r wybodaeth a
+ gawn ac, mewn rhai achosion, ein bod yn sicrhau bod y
+ wybodaeth honno ar gael i’r cyhoedd. Rydym yn rhagdybio’n
+ gyffredinol o blaid datgelu, ond bydd penderfyniadau unigol
+ yn ystyried ein rhwymedigaethau statudol, gan gynnwys o dan
+ ddeddfwriaeth diogelu data.
+
+
Rheolwyr Data
+
+ Llywodraeth Cymru (LlC) yw’r Rheolwr Data at ddibenion
+ diogelu data (mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd
+ Cymru yn un o is-adrannau LlC). Cyfeiriad LlC yw:
+ Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
+
+
+ Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn gyfrifol
+ am benderfynu sut rydym yn casglu, storio a phrosesu eich
+ gwybodaeth bersonol. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn
+ esbonio’n syml sut rydym yn casglu, defnyddio a rhannu eich
+ data.
+
+
+ Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru wedi penodi
+ Uwch Reolwr Diogelu Data i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â
+ deddfwriaeth diogelu data. Os oes gennych unrhyw gwestiynau
+ am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn neu sut rydym yn trin eich
+ gwybodaeth bersonol, neu’n credu nad ydym wedi cydymffurfio
+ â’ch hawliau fel testun data, cysylltwch â’r Uwch Reolwr
+ Diogelu Data:
+
+
+
Trwy anfon neges e-bost at *** neu:
+
+
+ Yn ysgrifenedig at yr Uwch Reolwr Diogelu Data/Senior Data
+ Protection Manager (SDPM) yn: Temple Quay House, 2 The
+ Square, Temple Quay, Bryste BS1 6PN
+
+
+ Mae cydymffurfiaeth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd
+ Cymru â diogelu data yn cael ei goruchwylio’n ffurfiol gan
+ Swyddog Diogelu Data LlC. Cewch gysylltu â Swyddog Diogelu
+ Data LlC:
+
+
+ -
+ Trwy anfon neges e-bost at
+ dataprotection@communities.gov.uk, neu;
+
+ -
+ Yn ysgrifenedig at y “Swyddog Diogelu Data” yn:
+ Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
+
+
+
Sut i gwyno am brosesu’ch gwybodaeth bersonol
+
+ Pan fyddwn yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol, byddwn yn
+ cydymffurfio â’r Ddeddfwriaeth/Rheoliadau Diogelu Data.
+
+
+ Os credwch nad ydym wedi cydymffurfio â’ch hawliau fel
+ testun data, neu ein rhwymedigaethau, ac rydych yn anfodlon
+ â’r ffordd y mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd
+ Cymru yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol, neu os oes gennych
+ unrhyw gwestiynau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn neu sut
+ rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni ar
+ ***.
+
+
+ Hefyd, i gael cyngor annibynnol ar faterion diogelu data,
+ cewch uwchgyfeirio unrhyw gŵyn unrhyw bryd at Swyddfa’r
+ Comisiynydd Gwybodaeth (awdurdod goruchwyliol y Deyrnas
+ Unedig ar gyfer materion Diogelu Data). Gweler isod y
+ cyfeiriad post, y rhif ffôn a dolen i’r wefan:
+
+
+ Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
+ 1 Wycliffe House
+
+ Water Lane, Wilmslow Swydd Gaer
+
+ SK9 5AF
+
+
+ Rhif llinell ffôn gymorth:
+
+ 0303 123 1113
+
+
+
+ https://ico.org.uk
+
+
+
+
1. Pwy ydym ni?
+
+ Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn un o
+ is-adrannau Llywodraeth Cymru.
+
+
+ -
+ O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae Penderfyniadau
+ Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn gyfrifol am benderfynu
+ sut rydym yn casglu, storio a phrosesu’ch gwybodaeth
+ bersonol.
+
+ -
+ Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn
+ ymdrin â phob agwedd ar apeliadau cynllunio,
+ archwiliadau o gynlluniau lleol ac unrhyw waith achos
+ arall sy’n gysylltiedig â chynllunio a gwaith achos
+ arbenigol.
+
+ -
+ Cynhelir y rhain gan Benderfyniadau Cynllunio ac
+ Amgylchedd Cymru neu ar ran Gweinidog perthnasol Cymru.
+
+ -
+ Ar gyfer Atodlenni Ardoll Seilwaith Cymunedol (CILs),
+ penodir ein Harolygwyr gan yr Awdurdod Codi Tâl i
+ archwilio ei Atodlen Codi Tâl.
+
+
+
2. Sut rydym yn casglu gwybodaeth bersonol?
+
+ -
+ Byddwch wedi rhoi gwybodaeth i ni’n uniongyrchol os
+ byddwch yn gwneud neu’n cymryd rhan mewn apêl gynllunio,
+ cais neu archwiliad yn rhan o’n prosesau cynllunio.
+
+ -
+ Fe allech hefyd roi gwybodaeth categori arbennig i ni’n
+ anuniongyrchol os ydych yn rhoi gwybodaeth am eich
+ amgylchiadau personol (a allai hefyd gynnwys gwybodaeth
+ categori personol ac arbennig am destunau data eraill)
+ yr ydych eisiau iddi gael ei hystyried yn y prosesau
+ cynllunio.
+
+ -
+ Trwy ein gwefannau e.e. data cysylltu a anfonir gan eich
+ porwr at ein gweinydd gwe pan fyddwch yn cysylltu â’n
+ gwefan.
+
+
+
3. Pam rydym ni’n prosesu’ch gwybodaeth bersonol?
+
+ Mae’r wybodaeth a roddir i ni yn cael ei defnyddio i
+ benderfynu ar apeliadau, gorchmynion, ceisiadau ac
+ archwiliadau.
+
+
+ Mae telerau ac amodau Porth PCAC yn darparu gwybodaeth ar
+ wahân am sut rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol y gallem
+ ei chasglu, pryd a’r mathau o ddata personol y gallem eu
+ casglu wrth gyflawni ein dyletswyddau o dan Ddeddfwriaeth
+ Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a deddfwriaeth arall sy’n
+ ymwneud â gwaith achos arall.
+
+
+
Porth PCAC
+
+ Mae’r wybodaeth a roddir i ni trwy Borth PCAC yn cael ei
+ defnyddio i brosesu achosion Apeliadau Cynllunio a Gorfodi.
+
+
+ -
+ Bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn
+ rhoi arweiniad ar wneud a chymryd rhan mewn mathau o
+ waith achos a chyfeiriadau at y rheolau gweithdrefnol
+ statudol sy’n berthnasol.
+
+ -
+ Yn unol â’r rheolau statudol, mae copi o
+ gynrychiolaethau gwaith achos fel arfer yn cael ei roi
+ i’r apelydd/ymgeisydd, yr awdurdod lleol (ALl) a
+ phartïon statudol eraill i’r achos.
+
+ -
+ Mae hefyd yn ofynnol i’r ALl sicrhau bod sylwadau ar y
+ gwaith achos ar gael i unrhyw un sy’n dymuno eu gweld.
+
+ -
+ Gan eu bod yn rhoi cyd-destun i’ch sylwadau ac yn
+ caniatáu i’r achos gael ei gynnal yn effeithiol e.e. yn
+ caniatáu i bartïon â safbwyntiau tebyg adnabod ei gilydd
+ a chytuno i gyflwyno safbwyntiau ar y cyd mewn unrhyw
+ wrandawiad neu ymchwiliad), mae’r sylwadau a gawn fel
+ arfer yn cael eu cyfnewid rhwng y partïon heb olygu
+ cynnwys na gwybodaeth gyswllt, ar yr amod bod
+ Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru o’r farn
+ bod hynny’n angenrheidiol ac yn gymesur.
+
+ -
+ Gall y wybodaeth a roddir yn wirfoddol gynnwys
+ gwybodaeth bersonol am unigolion eraill yn uniongyrchol
+ neu’n anuniongyrchol, ac fe allai gynnwys gwybodaeth
+ categori arbennig e.e. gwybodaeth feddygol am bartïon
+ eraill (gweler y paragraff ynghylch Data Categori
+ Arbennig i gael rhagor o wybodaeth). Bydd Penderfyniadau
+ Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn prosesu data o’r fath
+ dim ond pan ellir ei gyfiawnhau a phan fydd ganddi sail
+ gyfreithiol briodol i wneud hynny.
+
+ -
+ Sylwer na fyddwn yn derbyn sylwadau dienw na
+ chyfrinachol, ond cewch wneud sylwadau ar achos a gofyn
+ i’ch hunaniaeth beidio â chael ei datgelu.
+
+ -
+ Os byddwch yn gofyn am hyn, bydd eich sylwadau’n cael eu
+ copïo i’r partïon a’u rhoi i’r Arolygydd heb eich enw
+ a’ch manylion cyswllt, ac mae’n bosibl y bydd yr
+ Arolygydd yn rhoi llai o bwys i’ch sylwadau o ganlyniad.
+
+ -
+ Os na fyddwch eisiau cael eich adnabod o’ch sylwadau,
+ dylech osgoi cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy
+ ydych.
+
+
+
+ Bydd yr Arolygydd a benodwyd yn ystyried y wybodaeth a
+ roddwyd yn y sylwadau ac yn gwneud ei benderfyniad. Bydd ei
+ hysbysiad o benderfyniad yn rhoi’r canlyniad ar gyfer yr
+ achos a’i resymau drosto.
+
+
Y wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi ar Borth PCAC
+
+ Rydym yn cyhoeddi crynodeb o fanylion achosion rydym yn eu
+ prosesu ar Borth PCAC.
+
+
+ - Enw’r apelydd/ymgeisydd a chyfeiriad y safle.
+ - Rydym hefyd yn cyhoeddi’r penderfyniad terfynol.
+ -
+ Mae gennym bolisi golygu ac rydym yn dileu rhifau ffôn
+ personol, cyfeiriadau e-bost a llofnodion, yn ogystal â
+ gwybodaeth categori arbennig (fel gwybodaeth am iechyd
+ unigolyn).
+
+ -
+ Os oes gennych bryderon am gyhoeddi eich gwybodaeth,
+ dylech eu trafod gyda’r Swyddog Achos yn y lle cyntaf
+ cyn cyflwyno’ch sylwadau.
+
+ -
+ Fodd bynnag, os oes gennych bryderon pellach ynglŷn â
+ phrosesu neu drin eich data personol, cysylltwch â – I
+ assume WG DPO offices?
+
+ -
+ Er efallai na fyddwn yn cyhoeddi pob dogfen neu bob
+ achos, mae gennym rwymedigaeth statudol i anfon copi o
+ sylwadau at y partïon perthnasol. Mae’n ofynnol i’r ALl
+ sicrhau eu bod ar gael i unrhyw un a allai ddymuno eu
+ gweld, felly fe allech ddymuno cysylltu â’r ALl hefyd i
+ gadarnhau pa wybodaeth y mae’n ei chyhoeddi.
+
+
+
Prosiectau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol
+
+ O ran Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (“DNS”) o dan
+ Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, sy’n diwygio Deddf Cynllunio
+ Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf”), mae Rheoliadau Datblygiadau
+ o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 (fel y’u diwygiwyd) a
+ Rheoliadau dilynol yn mynnu ein bod yn:
+
+
+ -
+ Sicrhau bod mathau penodol o ddogfennau a gwybodaeth ar
+ gael yn fwy eang i gyfranogwyr eraill, a allai gynnwys
+ gwybodaeth bersonol, gan gynnwys sicrhau bod y rhain ar
+ gael i’r cyhoedd.
+
+ -
+ Rydym yn gwneud hyn trwy gyhoeddi dogfennau a gwybodaeth
+ ar Borth PCAC.
+
+ -
+ Os oes gennych ymholiadau neu bryderon penodol ynglŷn â
+ phrosesu eich data personol yn y modd hwn, cysylltwch
+ â’r swyddog achos perthnasol yn y lle cyntaf i drafod yr
+ arweiniad a’ch pryderon.
+
+
+
Y wybodaeth a gyhoeddwn ar-lein
+
+ - Dogfennau cais
+ -
+ Sylwadau Perthnasol, Sylwadau Ysgrifenedig, a dogfennau
+ eraill ar y wefan Datblygiadau o Arwyddocâd
+ Cenedlaethol.
+
+ -
+ Bydd y cofnodion cyhoeddedig hyn yn cynnwys enw’r
+ unigolyn sydd wedi cyflwyno’r ddogfen.
+
+ -
+ Yr Arolygydd neu’r Arolygwyr a benodwyd i archwilio
+ cais.
+
+ -
+ Cyn cyhoeddi unrhyw o ddogfennau, rydym yn golygu (neu’n
+ ‘tywyllu’) manylion personol penodol, e.e. rhifau ffôn;
+ cyfeiriadau; cyfeiriadau e-bost; llofnodion a gwybodaeth
+ bersonol sensitif (data categori arbennig).
+
+ -
+ Rydym hefyd yn golygu unrhyw gynnwys yr ystyriwn y
+ gallai fod yn enllibus.
+
+ -
+ Ni fyddwn yn golygu unrhyw wybodaeth bersonol mewn
+ dogfennau a gynhyrchwyd gan ymgeiswyr lle y byddai hyn
+ yn atal archwilio cais yn effeithiol e.e. yn atal
+ Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru rhag
+ cyflawni ei thasg gyhoeddus. Er enghraifft, mae rhai
+ dogfennau sy’n cael eu cyhoeddi yn cynnwys enwau a
+ chyfeiriadau Partïon â Buddiant oherwydd byddai’r
+ Datblygiad Arfaethedig yn effeithio ar dir neu hawliau’r
+ Partïon â Buddiant hynny.
+
+ -
+ Rydym hefyd yn cyhoeddi Adroddiad Argymhelliad yr
+ Awdurdod Archwilio a phenderfyniad Gweinidogion Cymru, y
+ gallai’r ddau gynnwys gwybodaeth bersonol.
+
+
+
+ Fel arall, pan fydd ein hadrannau noddi’n gyfrifol am
+ benderfynu ar achos, bydd yr Arolygydd yn llunio adroddiad.
+ Yna, bydd adroddiad yr Arolygydd a’r sylwadau a roddwyd
+ iddo’n cael eu hanfon at ein hadran noddi.
+
+
+ 4. O dan ba Sail Gyfreithiol rydym yn prosesu’ch gwybodaeth
+ bersonol?
+
+
+ Mae angen i ni brosesu’ch gwybodaeth bersonol er mwyn i ni
+ allu hwyluso’r broses gynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad
+ a Thref 1990, Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, Deddf
+ Cynllunio 2008, Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 ac amryw
+ ddeddfwriaethau eraill e.e. Deddf Priffyrdd 1980, ar gyfer
+ holl waith achos Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd
+ Cymru.
+
+
+ Amlinellir y seiliau cyfreithlon ar gyfer prosesu yn Erthygl
+ 6 GDPR y Deyrnas Unedig. Mae Penderfyniadau Cynllunio ac
+ Amgylchedd Cymru yn defnyddio’r seiliau cyfreithlon a
+ fanylir yn:
+
+
+
+ Erthygl 6(1)(a) Lle mae’r cwsmer wedi rhoi ei ganiatâd i
+ brosesu ei ddata personol at ddiben penodedig.
+
+
+ Erthygl 6(1)(c) Ar gyfer prosesu sylwadau ysgrifenedig a
+ dogfennau, y sail gyfreithlon sy’n ymwneud â phrosesu sy’n
+ angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y
+ mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn
+ ddarostyngedig iddi.
+
+
+ Erthygl 6(1)(e) Ar gyfer prosesu sy’n ofynnol i gyflawni
+ tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod
+ swyddogol a roddwyd i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd
+ Cymru.
+
+
+ Erthygl 9(2)(g) Ar gyfer prosesu Data Categori Arbennig, y
+ sail gyfreithlon yw pan fydd prosesu categorïau arbennig o
+ ddata personol yn angenrheidiol am resymau sydd o fudd
+ sylweddol i’r cyhoedd. Mae hefyd yn ymwneud â’n tasg
+ gyhoeddus a diogelu eich hawliau sylfaenol, ac Atodlen 1
+ rhan 2(6) DPA2018 sy’n ymwneud â dibenion statudol a
+ llywodraeth.
+
+
5. Pa ddata personol rydym ni’n ei brosesu?
+
+ Rydym yn casglu a phrosesu amrywiaeth o wybodaeth amdanoch,
+ gan gynnwys:
+
+
+ -
+ Unrhyw a phob math o wybodaeth bersonol a roddoch i ni’n
+ wirfoddol yn rhan o un neu fwy o’r prosesau canlynol:
+ apêl gynllunio a mathau cysylltiedig o apeliadau,
+ Prosiectau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS)
+ a gwaith achos arbenigol.
+
+ -
+ Gall y wybodaeth gynnwys gwybodaeth bersonol am
+ unigolion eraill yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol,
+ ac fe all gynnwys data categori arbennig e.e. gwybodaeth
+ feddygol am bartïon eraill (gweler y paragraff isod
+ ynghylch Data Categori Arbennig i gael rhagor o
+ wybodaeth).
+
+ - Eich enw
+ - Cyfeiriad
+ -
+ Rhif ffôn (yn gyffredinol ac os yw’n gyfranogwr mewn
+ digwyddiad rhithwir sy’n ymuno trwy ffôn symudol neu
+ ffôn tirlinell)
+
+ - Cyfeiriad e-bost
+ - Cyfeiriad IP
+ - Gohebiaeth ar ffurf electronig a chopi caled
+ - Dogfennau cais
+ -
+ Cyflwyniadau ysgrifenedig a wnaed gan Bartïon â Buddiant
+ ac eraill sy’n ymwneud â phroses yr apêl gynllunio
+
+ - Nodiadau ysgrifenedig
+ - Copïau caled o wybodaeth
+ -
+ Gwybodaeth a roddwyd gan adrannau a sefydliadau eraill y
+ Llywodraeth
+
+
+
Data Categori Arbennig
+
+ Data categori arbennig a ddiffinnir yn Erthygl 9 GDPR y
+ Deyrnas Unedig fel data personol yw:
+
+
+ - Hiliol neu darddiad ethnig
+ - Safbwyntiau gwleidyddol
+ - Credoau crefyddol neu athronyddol
+ - Aelodaeth o undeb llafur
+ - Data genetig
+ -
+ Data biometrig at ddiben adnabod bod dynol yn unigryw
+
+ - Data yn ymwneud ag iechyd neu
+ -
+ Ddata yn ymwneud â bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd
+ rhywiol bod dynol
+
+
+
+ Nid yw hyn yn cynnwys data personol am honiadau, achosion
+ neu euogfarnau troseddol, gan fod rheolau ar wahân yn
+ berthnasol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllawiau ar
+ wahân y Comisiynydd Gwybodaeth ar ddata troseddau.
+
+
+ -
+ Ni fydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn
+ gofyn am ddata categori arbennig fel mater o drefn yn
+ rhan o’n gweithgareddau prosesu. Fodd bynnag, fe allai
+ gael ei ddarparu yn rhan o’r broses. Pan fyddwch yn
+ cyflwyno data categori arbennig, gwnewch yn siŵr ei fod
+ yn angenrheidiol ac yn berthnasol i’r achos.
+
+ -
+ Ar gyfer rhai achosion, efallai y bydd angen i ni gasglu
+ rhywfaint o ddata categori arbennig i’r graddau bod hyn
+ yn berthnasol i’r achos. Gallai hyn, er enghraifft,
+ gynnwys neu ymwneud â gwybodaeth am statws (cefndir
+ teuluol, perthnasoedd a dibynyddion), busnes a
+ bywoliaeth, yn ogystal â llety, iechyd a/neu anghenion
+ addysgol.
+
+ -
+ Gall y wybodaeth a roddir yn wirfoddol gynnwys
+ gwybodaeth bersonol am unigolion eraill yn uniongyrchol
+ neu’n anuniongyrchol, ac fe all gynnwys data categori
+ arbennig e.e. gwybodaeth feddygol am bartïon eraill.
+ Bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn
+ prosesu data o’r fath dim ond pan ellir ei gyfiawnhau a
+ phan fydd ganddi sail gyfreithiol briodol i wneud hynny.
+ Gwnewch yn siŵr ei bod yn angenrheidiol ac yn berthnasol
+ i’r achos pan fyddwch yn ei rhoi i Benderfyniadau
+ Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.
+
+
+
+ Efallai y byddwn yn prosesu ac yn storio categorïau arbennig
+ o wybodaeth bersonol fwy sensitif sy’n ymwneud ag unrhyw
+ unigolyn a roddir yn wirfoddol gennych chi yn rhan o’r holl
+ broses gwaith achos cynllunio rydych eisiau iddi gael ei
+ hystyried e.e. gwybodaeth feddygol yn ymwneud â chi eich
+ hun, aelod o’r teulu ac, mewn rhai achosion, plentyn.
+ Gallai’r wybodaeth bersonol a roddir gael e ei dal ar system
+ gyfrifiadurol, neu ar gofnod papur fel mewn ffeil ffisegol.
+
+
6. Beth yw canlyniadau peidio â darparu gwybodaeth?
+
+ -
+ Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth sy’n ofynnol i ni i
+ ddilysu eich achos, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu ei
+ ystyried. Byddwn fel arfer yn rhoi gwybod i chi os bydd
+ hyn yn wir.
+
+ -
+ Nid oes rhwymedigaeth statudol ar bartïon â buddiant i
+ gymryd rhan mewn achos.
+
+ -
+ Os ydych yn apelydd/asiant nad yw’n rhoi’r wybodaeth
+ statudol sy’n angenrheidiol i ddilysu eich achos o fewn
+ y cyfnodau amser penodedig, ni fyddwn yn gallu ystyried
+ eich achos ac fe allai gael ei ystyried yn annilys.
+
+ -
+ Os ydych yn ymgeisydd nad yw’n rhoi’r wybodaeth statudol
+ sy’n angenrheidiol i ystyried eich cais, efallai na
+ fyddwn yn gallu derbyn eich cais i’w Archwilio o dan
+ adran 55 Deddf Cynllunio 2008.
+
+ -
+ O ran Cynlluniau Lleol, mae’n ofynnol i’r Arolygydd
+ archwilio p’un a yw’r cynllun yn gadarn ac yn
+ cydymffurfio’n gyfreithiol ac, wrth wneud hynny, mae’n
+ rhaid iddo ystyried unrhyw sylwadau a dogfennau eraill a
+ gyflwynwyd gan yr ALl.
+
+ -
+ Dylai’r rhai hynny sy’n cymryd rhan mewn archwiliad o
+ gynllun lleol nodi y bydd yr ALl yn sicrhau bod eu
+ sylwadau ‘ar gael’ yn unol â’r Rheoliadau, gan gynnwys
+ eu cyhoeddi ar wefan yr ALl. Fel Rheolwr Data, caiff yr
+ ALl olygu rhywfaint neu’r cyfan o’r wybodaeth bersonol a
+ gynhwysir mewn sylwadau a dogfennau eraill y sicrheir eu
+ bod ‘ar gael’, neu beidio. Er mwyn sicrhau archwiliad
+ agored a theg, mae’n bwysig bod yr Arolygydd a’r holl
+ gyfranogwyr eraill ym mhroses yr archwiliad yn gwybod
+ pwy sydd wedi gwneud sylwadau ynglŷn â’r cynllun a
+ chynnwys y sylwadau hynny.
+
+ -
+ Nid oes rhwymedigaeth statudol ar barti â buddiant i
+ gymryd rhan mewn archwiliad o gynllun lleol na darparu
+ unrhyw wybodaeth benodol os yw’n dewis peidio â gwneud
+ hynny.
+
+ -
+ Os ydych yn Barti â Buddiant arall ac nad ydych yn rhoi
+ eich enw a/neu enw’r sefydliad neu’r grŵp rydych yn ei
+ gynrychioli, efallai na fyddwn yn gallu derbyn eich
+ sylwadau.
+
+ -
+ Nid ydym yn derbyn sylwadau dienw neu gyfrinachol ar
+ gyfer unrhyw fath o waith achos Penderfyniadau Cynllunio
+ ac Amgylchedd Cymru.
+
+
+
7. Gwybodaeth am blant
+
+ Nid yw Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn
+ darparu gwasanaethau’n uniongyrchol i blant nac yn casglu eu
+ gwybodaeth bersonol yn rhagweithiol. Fodd bynnag, weithiau
+ rhoddir gwybodaeth i ni am blant yn wirfoddol yn rhan o’r
+ prosesau apeliadau, ceisiadau, gorchmynion ac archwiliadau.
+ Gall hyn gynnwys data categori arbennig a roddir mewn
+ sylwadau o bob agwedd ar waith achos.
+
+
8. Am ba mor hir rydym ni’n cadw’ch data personol?
+
+ Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol am gyhyd ag sy’n
+ angenrheidiol i ddarparu ein gwasanaethau a chyflawni ein
+ rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol yn unig. Mae gennym
+ bolisïau a gweithdrefnau penodol ynglŷn â rheoli a chadw
+ cofnodion, fel bod gwybodaeth bersonol yn cael ei hadolygu
+ a’i dileu ar ôl cyfnod rhesymol gan ddilyn y meini prawf
+ canlynol:
+
+
+ -
+ Y diben neu’r gweithgarwch busnes sy’n golygu bod angen
+ prosesu eich gwybodaeth.
+
+ -
+ P’un a oes gennym unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i
+ barhau i brosesu’ch gwybodaeth.
+
+ -
+ P’un a oes gennym unrhyw sail gyfreithiol o dan y
+ gyfraith diogelu data i barhau i brosesu’ch gwybodaeth
+ (e.e. Tasg Gyhoeddus).
+
+ -
+ Unrhyw arferion sector cytunedig perthnasol yn ymwneud â
+ pha mor hir y dylid cadw gwybodaeth.
+
+ -
+ I amddiffyn yn erbyn heriau cyfreithiol a rheoliadol.
+
+
+
9. Gyda phwy rydym ni’n rhannu eich data?
+
+ Yn unol â’r rheolau statudol a’r canllawiau perthnasol, mae
+ copi o sylwadau gwaith achos fel arfer yn cael ei anfon at:
+
+
+ - Apelyddion/Ymgeiswyr
+ - Partïon â buddiant
+ - Awdurdodau lleol
+ -
+ Mae awdurdodau lleol hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod y
+ sylwadau gwaith achos ar gael i unrhyw un sy’n dymuno eu
+ gweld.
+
+ - Swyddogion Rhaglen allanol
+ -
+ Aelodau’r cyhoedd (byd-eang) pan fyddant wedi’u cyhoeddi
+ ar ein gwefannau
+
+ - Partïon statudol eraill i’r achos
+ - Partïon statudol eraill fel rheoleiddwyr allanol.
+ -
+ Rydym yn rhoi eich gwybodaeth i Weinidog perthnasol
+ Cymru sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ar y ceisiadau
+ a’r apeliadau a archwiliwn trwy’r canlynol:
+
+ -
+ Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol
+
+ - Yr Adran Drafnidiaeth
+ -
+ Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
+
+ -
+ Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth
+ Leol.
+
+
+
+
+ -
+ Er mwyn bod yn deg i bartïon eraill sydd â buddiant mewn
+ achos, mae angen i ni rannu’ch sylwadau fel y nodwyd
+ uchod. Mae hefyd yn rhoi cyd-destun ac yn caniatáu ar
+ gyfer cynnal ein prosesau gwaith achos yn effeithiol,
+ e.e. yn caniatáu i bartïon sydd â safbwyntiau tebyg i
+ adnabod ei gilydd a chytuno ar gyflwyno safbwyntiau ar y
+ cyd mewn unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad, felly mae’r
+ sylwadau a gawn yn cael eu cyfnewid rhwng y partïon, ar
+ yr amod bod Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru
+ o’r farn bod hyn yn angenrheidiol ac yn gymesur, heb
+ olygu’r cynnwys na’r wybodaeth gyswllt. Byddwn yn trin
+ eich gwybodaeth yn gyfrinachol os byddwch yn gofyn i ni
+ wneud hynny, ond dylech fod yn ymwybodol y gallai’r
+ Arolygydd roi llai o bwys i’ch sylwadau oherwydd hynny.
+
+
+
+ Bydd yr Arolygydd neu’r unigolyn a benodwyd yn ystyried y
+ wybodaeth a a roddwyd yn y sylwadau ac yn gwneud ei
+ benderfyniad. Bydd ei hysbysiad o benderfyniad yn rhoi
+ canlyniad yr achos a’i resymau drosto.
+
+
+ Fel arall, pan fydd Gweinidogion Cymru ac adrannau a
+ sefydliadau eraill y Llywodraeth yn gyfrifol am benderfynu
+ ar yr achos, bydd yr Arolygydd yn llunio adroddiad
+ argymhelliad. Bydd adroddiad yr Arolygydd a’r sylwadau’n
+ cael eu darparu iddynt.
+
+
+ Mewn rhai amgylchiadau, fel o dan orchymyn llys, mae gennym
+ rwymedigaeth gyfreithiol i rannu gwybodaeth. Efallai y bydd
+ angen i ni rannu’ch gwybodaeth bersonol â’r canlynol hefyd:
+
+
+ -
+ Asiantaethau ac adrannau eraill y llywodraeth a gweision
+ sifil
+
+ -
+ Ein cynrychiolwyr cyfreithiol ni neu gynrychiolwyr
+ cyfreithiol eraill
+
+ - Archwilwyr, a
+ -
+ Rheoleiddwyr, neu i gydymffurfio â’r gyfraith fel arall.
+
+
+
+ Mae’n bosibl y defnyddiwn ddarparwyr gwasanaeth trydydd
+ parti i brosesu gwybodaeth (gweler Atodiad B am restr lawn)
+ ar ein rhan mewn perthynas â’n gwaith achos e.e. darparu
+ gwasanaethau technoleg gwybodaeth. Pan fyddwn yn gwneud
+ hynny, bydd contractau’n cael eu llunio i sicrhau bod eich
+ gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu yn unol â’n
+ cyfarwyddiadau ni yn unig (oni bai ei bod yn ofynnol fel
+ arall yn ôl y gyfraith), a bod mesurau priodol ar waith i
+ sicrhau diogelwch gwybodaeth.
+
+
+ Yn ogystal, mae’n ofynnol i ni, o dan Ddeddf Cofnodion
+ Cyhoeddus 1958 (fel y’i diwygiwyd), drosglwyddo cofnodion
+ i’r Archifau Cenedlaethol i’w cadw’n barhaol. Gallai rhai
+ o’r cofnodion hyn gynnwys data personol ein cwsmeriaid.
+
+
Pwy fydd yn gallu cael at eich data?
+
+ Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn i gadw’ch data’n
+ ddiogel. Rydym wedi sefydlu systemau a phrosesau i atal
+ mynediad at eich data neu ddatgelu eich data heb awdurdod
+ e.e. rydym yn diogelu eich data gan ddefnyddio lefelau
+ amrywiol o amgryptio, ac mae rheolaethau mynediad perthnasol
+ ar waith i reoli a thrin eich gwybodaeth bersonol yn
+ effeithiol.
+
+
+ Pan ddefnyddir darparwyr gwasanaeth trydydd parti, sefydlir
+ contractau a/neu drwyddedau i sicrhau bod eich gwybodaeth
+ bersonol yn cael ei phrosesu yn unol â’n cyfarwyddiadau ni
+ yn unig (oni bai ei bod yn ofynnol fel arall yn ôl y
+ gyfraith), a bod mesurau priodol ar waith i sicrhau
+ diogelwch y wybodaeth honno.
+
+
+ Pan fyddwch yn gwneud apêl/cais neu’n cyflwyno sylwadau ar
+ unrhyw ran o’n gwaith achos, dylech gofio bod gofynion
+ statudol arnom, mewn rhai achosion, i sicrhau bod y
+ wybodaeth hon ar gael yn ehangach.
+
+
+ Bydd hyn fel arfer yn cael ei amlinellu yn ein canllawiau,
+ ond os oes gennych ymholiadau neu bryderon penodol ynglŷn ag
+ achos penodol, cysylltwch â’r swyddog achos a fydd yn trafod
+ y mater gyda PCAC.
+
+
10. A ydym ni’n defnyddio unrhyw brosesyddion data?
+
+ Ydym - rhoddir rhestr o’n prosesyddion data presennol yn
+ Atodiad B.
+
+
11. Eich hawliau mewn perthynas â phrosesu
+
+ O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau ynglŷn â
+ phrosesu eich data personol. Mae’r hawliau sydd ar gael i
+ chi yn dibynnu ar y rheswm pam rydym yn prosesu’ch
+ gwybodaeth. Nid oes rhaid i chi dalu am arfer eich hawliau.
+ Rhoddir mis i ni ymateb i chi.
+
+
Eich hawliau o dan y GDPR (DU) yw’r hawl:
+
+ - I gael gwybod
+ - I gael mynediad
+ - I gywiro
+ - I ddileu
+ - I gyfyngu ar brosesu
+ - I gludadwyedd data
+ - I wrthwynebu
+ -
+ Hawliau yn ymwneud â gwneud penderfyniadau awtomataidd a
+ phroffilio. (Nid yw Penderfyniadau Cynllunio ac
+ Amgylchedd Cymru yn gwneud penderfyniadau awtomataidd
+ nac yn proffilio).
+
+
+
+ Nid yw pob un o’r hawliau hyn yn absoliwt, sy’n golygu
+ efallai y byddant yn berthnasol mewn rhai sefyllfaoedd yn
+ unig ac fe allent fod yn ddarostyngedig i eithriadau ac
+ esemptiadau cyfreithiol.
+
+
+ Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar wefan yr
+ ICO.
+
+
12. Cofrestru am Gyfrif ar gyfer Porth PCAC
+
+ Mae’n rhaid i ddefnyddwyr Porth PCAC greu cyfrif gyda ni er
+ mwyn cyflwyno apeliadau neu unrhyw sylwadau. Bydd cofrestru
+ gyda ni yn eich galluogi i ddefnyddio ein hystod lawn o
+ wasanaethau apeliadau, gan gynnwys tudalen hafan bersonol.
+
+
+ Hefyd, y ffordd orau o wneud sylwadau ar achos presennol yw
+ cofrestru gyda ni yn gyntaf, gan fod hynny’n hwyluso’r
+ broses o olrhain achosion a chyflwyno sylwadau.
+
+ {/*
Cyfleuster Mewngofnodi fel Gwestai ar Borth PCAC
+
+ Mae gennym gyfleuster mewngofnodi fel gwestai os ydych
+ eisiau cyflwyno sylwadau heb greu cyfrif; chwiliwch am eich
+ achos a chliciwch ar y botwm ‘Cyflwyno Sylwadau’.
+
*/}
+
+ 13. Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI), Ceisiadau Mynediad
+ at Ddata gan y Testun (SAR) a Rheoliadau Gwybodaeth
+ Amgylcheddol (EIR)
+
+
+ Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn gorff
+ cyhoeddus ac mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnom i ymateb i
+ geisiadau a wneir o dan y deddfwriaethau hyn. Weithiau, bydd
+ hyn yn golygu y gallai eich data personol gael ei ddefnyddio
+ i ymateb i’r ceisiadau hyn. Os ydych yn ymgeisydd sy’n
+ gwneud cais am wybodaeth o dan un o’r cyfundrefnau mynediad
+ hyn, byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth i gydymffurfio â
+ chais o’r fath. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth er mwyn
+ gohebu â chi ac er mwyn anfon ein hymateb. Os byddwch yn
+ gwneud cais am eich data personol eich hun (cais mynediad at
+ ddata gan y testun), efallai y bydd angen i ni gael
+ tystiolaeth hefyd i gadarnhau pwy ydych.
+
+
+ 14. Atodiad A – Mathau o Waith Achos a gynhelir gan
+ Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru
+
+
+ Rhestr lawn o Apeliadau, Ceisiadau, Archwiliadau a
+ Gorchmynion y mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn ymdrin â
+ nhw: pob math o Waith Achos PCAC.
+
+
+
+
+
+
-
+
+
+ Darperir/Ar Gael trwy’r Wefan a Dulliau
+ Eraill
+
+
+
+
-
+
+ Math o Waith Achos
+
+
+
-
+
+ Diben Prosesu
+
+
+
+
+
-
+
+ Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos
+ Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/
+ Trydydd Partïon Allanol
+
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Hysbysiad Gorfodi Adeilad Rhestredig
+
+
+
+
-
+
+ Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos
+ Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/
+ Trydydd Partïon Allanol
+
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Hysbysiad gorfodi Ardal Gadwraeth
+
+
+
+
-
+
+ Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos
+ Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/
+ Trydydd Partïon Allanol
+
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Hysbysiad Gorfodi
+
+
+
+
-
+
+ Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos
+ Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/
+ Trydydd Partïon Allanol
+
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Gorfodi Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon
+
+
+
+
-
+
+ Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos
+ Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/
+ Trydydd Partïon Allanol
+
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Cynllunio – Dirwyn Hysbyseb i Ben
+
+
+
+
-
+
+ Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos
+ Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/
+ Trydydd Partïon Allanol
+
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Cynllunio – Apêl Hysbyseb
+
+
+
+
-
+
+ Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos
+ Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/
+ Trydydd Partïon Allanol
+
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
+ Cynllunio – Gwasanaeth Apeliadau Masnachol
+ (CAS)
+
+
+
+
+
-
+
+ Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos
+ Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/
+ Trydydd Partïon Allanol
+
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
+ Cynllunio – Gwasanaeth Apeliadau gan
+ Ddeiliaid Tai (HAS)
+
+
+
+
+
-
+
+ Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos
+ Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/
+ Trydydd Partïon Allanol
+
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Cymeradwyaeth o Flaen Llaw
+
+
+
+
-
+
+ Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos
+ Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/
+ Trydydd Partïon Allanol
+
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Cynllunio – Cytundeb Adran 106
+
+
+
+
-
+
+ Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos
+ Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/
+ Trydydd Partïon Allanol
+
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
+ Planning Listed Building Consent &
+ Conservation Area Consent Appeal
+
+
+
+
+
-
+
+ Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos
+ Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/
+ Trydydd Partïon Allanol
+
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Apeliadau Barnu’n Annilys
+
+
+
+
-
+
+ Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos
+ Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/
+ Trydydd Partïon Allanol
+
+
+
-
+
Ceisiadau yn ystod proses brosesu PCAC
+
+
-
+
Penderfyniadau ar Gostau
+
+
+
+
-
+
+ Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos
+ Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/
+ Trydydd Partïon Allanol
+
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Apêl Gynllunio
+
+
+
+
-
+
+ Gwefan Datblygiadau o Arwyddocâd
+ Cenedlaethol (DNS) ar gyfer Mathau o
+ Achosion DNS neu E-bost/ Post/ Trydydd
+ Partïon Allanol
+
+
+
-
+
Ceisiadau
+
+
-
+
+ Ceisiadau Datblygiad o Arwyddocâd
+ Cenedlaethol
+
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Hysbysiadau Prynu Arbenigol
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
+ Apeliadau System Ddraenio Gynaliadwy (SUDS)
+
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
+ Apeliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol (CIL)
+
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Gwrychoedd Uchel Arbenigol
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Gorchymyn Diogelu Coed Arbenigol
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Hysbysiadau Amnewid Coed Arbenigol
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Apeliadau SoDdGA
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Tir Halogedig
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Trwyddedu Morol
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Rheoli Gwastraff
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Tynnu Dŵr
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Apeliadau Sylweddau Peryglus
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Apeliadau Hysbysiad
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Gwrychoedd Arbenigol
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Apeliadau
+
+
-
+
Apeliadau Cyfyngiad
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Arbenigol
+
+
-
+
Hawliau Tramwy - Atodlen 14
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Ceisiadau
+
+
-
+
+ -
+ Tir Comin Arbenigol o dan y
+ deddfwriaethau isod:
+
+ - Deddf Tiroedd Comin 2006: Adran 16
+ - Deddf Tiroedd Comin 2006: Adran 38
+ - Deddf Tiroedd Comin 2006: Rhan 1
+ -
+ Deddf Caffael Tir 1981: Adran 19 ac
+ Atodlen 1
+
+ -
+ Deddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
+ 1971: Adran 23
+
+ - Adran 15 Mesur Plwyfi Newydd 1943
+ - Adran 193 Deddf Cyfraith Eiddo 1925
+ -
+ Cynlluniau rheoli o dan Ddeddf Tiroedd
+ Comin 1899
+
+ - Adran 9 Deddf Cefn Gwlad 1968
+ - Adran 9 Deddf Cefn Gwlad 1968
+ - Deddfau Cau Tir
+ -
+ Amryw Ddeddfau lleol a Deddfau Cadarnhau
+ Gorchymyn Dros Dro (sy’n cynnwys gosod
+ ardrethi stint)
+
+
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Ceisiadau
+
+
-
+
+ Hawliau Tramwy Arbenigol – Cyfeiriadau
+ Atodlen 14
+
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Ceisiadau
+
+
-
+
Meysydd Pentref Arbenigol
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Ceisiadau
+
+
-
+
Ceisiadau A 36 (Deddf Trydan 1989)
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Ceisiadau – Argymhellion
+
+
-
+
Trwyddedau Sychder
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Ceisiadau
+
+
-
+
+ Fforddfreintiau Angenrheidiol Arbenigol a
+ Thocio Coed
+
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Ceisiadau
+
+
-
+
Tynnu Dŵr
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Archwiliadau
+
+
-
+
Cynlluniau Rheoli Adnodd Dŵr
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Archwiliadau
+
+
-
+
Cynlluniau Datblygu Lleol
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Archwiliadau
+
+
-
+
Ardoll Seilwaith Cymunedol (CIL)
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Gorchmynion
+
+
-
+
Gorchmynion Diwygio Harbwr Orders
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Gorchmynion
+
+
-
+
Gorchmynion Sychder
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Gorchmynion
+
+
-
+
+ Gorchmynion y Ddeddf Trafnidiaeth a
+ Gweithfeydd
+
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Gorchmynion
+
+
-
+
Gorchmynion y Ddeddf Priffyrdd
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Gorchmynion
+
+
-
+
+ Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Awdurdod
+ Lleol (ALl)
+
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Gorchmynion
+
+
-
+
Gorchmynion Tollau Fferïau a Phontydd
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Gorchmynion
+
+
-
+
Gorchmynion Llwybrau Beiciau
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Gorchmynion
+
+
-
+
Gorchmynion Cau
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Gorchmynion
+
+
-
+
+ Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) yr Adran
+ Drafnidiaeth (LlC)
+
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Gorchmynion
+
+
-
+
Gorchmynion Ffyrdd Ymyl
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Gorchmynion
+
+
-
+
+ Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) Adran yr
+ Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA)
+
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Gorchmynion
+
+
-
+
+ Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) Adran yr
+ Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA)
+
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Gorchmynion
+
+
-
+
+ Adolygiad o Hen Ganiatadau Mwynau (ROMPs) a
+ Mwynau Ad-hoc
+
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Gorchmynion
+
+
-
+
Hysbysebion – Achosion Gweinidogion Cymru
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Gorchmynion
+
+
-
+
Addasu a Dirymu Caniatâd Cynllunio
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Gorchmynion
+
+
-
+
+ Gorchmynion Prynu Gorfodol (CPO) yr Adran
+ Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol
+ (BEIS)
+
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Gorchmynion
+
+
-
+
+ Gorchmynion Prynu Gorfodol (CPO) y
+ Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth
+ Leol (MHCLG)
+
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
Gorchmynion
+
+
-
+
+ -
+ Gorchmynion Hawliau Tramwy o dan y
+ Deddfwriaethau isod:
+
+ -
+ Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
+
+ - Deddf Priffyrdd 1980
+ - Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
+ - Deddf Caffael Tir 1981
+
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
+ Amrywiol – Archwiliadau, Gorchmynion a
+ Cheisiadau
+
+
+
-
+
+ Ceisiadau Ad-hoc gan Lywodraeth Cymru (LlC)
+
+
+
+
+
-
+
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
+
+
-
+
+ Amrywiol – Archwiliadau, Gorchmynion a
+ Cheisiadau
+
+
+
-
+
Yr Adran Drafnidiaeth (DfT) Meysydd Awyr
+
+
+
+
+
+
15. Atodiad B – Rhestr o Brosesyddion Data
+
Rhestr o Brosesyddion Data
+
+
+
+
+
-
+
+ Prosesydd Data
+
+
+
-
+
+ Diben
+
+
+
+
+
+
+
+
+
-
+
GoPro
+
+
-
+
+ Platfform ar gyfer Prosesu Apeliadau
+ Cynllunio
+
+
+
+
+
+
+
+
+
-
+
UK.Gov Notify
+
+
-
+
Cyfathrebu â Phartïon Allanol
+
+
+
+
+
+
+
-
+
Google Analytics
+
+
-
+
Monitro Gweithgarwch ar y We
+
+
+
+
+
+