import useTranslation from "next-translate/useTranslation"; import { useRouter } from "next/router"; export default function PrivacyCY() { let { t } = useTranslation(); const router = useRouter(); const { locale } = router; return (
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod data personol ein cwsmeriaid yn cael ei drin yn unol â’r egwyddorion a amlinellir mewn deddfau diogelu data.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn adlewyrchu gofynion Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y Deyrnas Unedig a Deddf Diogelu Data 2018, ac yn ymwneud â phob math o waith achos sy’n cael ei drin gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.
Mae’n rhoi gwybod i chi ynghylch:
Mae Porth PCAC yn ymdrin ag ystod o waith achos (fel y cofnodir yn Atodiad A).
Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am sut rydym yn prosesu gwybodaeth bersonol wrth ymdrin â chwynion.
Gallai’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn gael ei ddiweddaru a/neu ei ailgyhoeddi unrhyw bryd, a byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddiweddariadau o’r fath trwy wefan GOV.UK a gwefan PCAC.
Yn unol â’n disgresiwn, fe allem roi gwybod i chi trwy ddarparu hysbysiad ‘mewn union bryd’ i ymdrin ag unrhyw weithgareddau prosesu ychwanegol na chrybwyllir yn y ddogfen hon.
Mae GDPR y Deyrnas Unedig a Deddf Diogelu Data 2018 yn berthnasol i brosesu data personol sy’n ymwneud ag unigolyn (testun data) adnabyddedig neu adnabyddadwy y mae’r data personol yn ymwneud ag ef:
Nid yw’n cynnwys:
Mae “categorïau arbennig” o ddata personol (a adwaenwyd fel “data personol sensitif” o dan y gyfraith diogelu data flaenorol). Mae’r rhain yn fwy sensitif eu natur ac mae’n rhaid eu trin mewn ffordd benodol o dan y ddeddfwriaeth.
Un o werthoedd sylfaenol Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yw eu hymrwymiad i fod yn agored ac yn dryloyw mewn perthynas â’n rôl statudol wrth brosesu a phenderfynu ar waith achos cynllunio a’r holl waith achos arall cysylltiedig.
Mewn llawer o achosion, yn enwedig prosesau cynllunio, ceir rhwymedigaethau sy’n mynnu ein bod yn rhannu’r wybodaeth a gawn ac, mewn rhai achosion, ein bod yn sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael i’r cyhoedd. Rydym yn rhagdybio’n gyffredinol o blaid datgelu, ond bydd penderfyniadau unigol yn ystyried ein rhwymedigaethau statudol, gan gynnwys o dan ddeddfwriaeth diogelu data.
Llywodraeth Cymru (LlC) yw’r Rheolwr Data at ddibenion diogelu data (mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn un o is-adrannau LlC). Cyfeiriad LlC yw: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn gyfrifol am benderfynu sut rydym yn casglu, storio a phrosesu eich gwybodaeth bersonol. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn esbonio’n syml sut rydym yn casglu, defnyddio a rhannu eich data.
Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru wedi penodi Uwch Reolwr Diogelu Data i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn neu sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol, neu’n credu nad ydym wedi cydymffurfio â’ch hawliau fel testun data, cysylltwch â’r Uwch Reolwr Diogelu Data:
Trwy anfon neges e-bost at *** neu:
Yn ysgrifenedig at yr Uwch Reolwr Diogelu Data/Senior Data Protection Manager (SDPM) yn: Temple Quay House, 2 The Square, Temple Quay, Bryste BS1 6PN
Mae cydymffurfiaeth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru â diogelu data yn cael ei goruchwylio’n ffurfiol gan Swyddog Diogelu Data LlC. Cewch gysylltu â Swyddog Diogelu Data LlC:
Pan fyddwn yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol, byddwn yn cydymffurfio â’r Ddeddfwriaeth/Rheoliadau Diogelu Data.
Os credwch nad ydym wedi cydymffurfio â’ch hawliau fel testun data, neu ein rhwymedigaethau, ac rydych yn anfodlon â’r ffordd y mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn neu sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni ar ***.
Hefyd, i gael cyngor annibynnol ar faterion diogelu data, cewch uwchgyfeirio unrhyw gŵyn unrhyw bryd at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (awdurdod goruchwyliol y Deyrnas Unedig ar gyfer materion Diogelu Data). Gweler isod y cyfeiriad post, y rhif ffôn a dolen i’r wefan:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
1 Wycliffe House
Water Lane, Wilmslow Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif llinell ffôn gymorth:
0303 123 1113
https://ico.org.uk
Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn un o is-adrannau Llywodraeth Cymru.
Mae’r wybodaeth a roddir i ni yn cael ei defnyddio i benderfynu ar apeliadau, gorchmynion, ceisiadau ac archwiliadau.
Mae telerau ac amodau Porth PCAC yn darparu gwybodaeth ar wahân am sut rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol y gallem ei chasglu, pryd a’r mathau o ddata personol y gallem eu casglu wrth gyflawni ein dyletswyddau o dan Ddeddfwriaeth Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a deddfwriaeth arall sy’n ymwneud â gwaith achos arall.
Mae’r wybodaeth a roddir i ni trwy Borth PCAC yn cael ei defnyddio i brosesu achosion Apeliadau Cynllunio a Gorfodi.
Bydd yr Arolygydd a benodwyd yn ystyried y wybodaeth a roddwyd yn y sylwadau ac yn gwneud ei benderfyniad. Bydd ei hysbysiad o benderfyniad yn rhoi’r canlyniad ar gyfer yr achos a’i resymau drosto.
Rydym yn cyhoeddi crynodeb o fanylion achosion rydym yn eu prosesu ar Borth PCAC.
O ran Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (“DNS”) o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, sy’n diwygio Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf”), mae Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 (fel y’u diwygiwyd) a Rheoliadau dilynol yn mynnu ein bod yn:
Fel arall, pan fydd ein hadrannau noddi’n gyfrifol am benderfynu ar achos, bydd yr Arolygydd yn llunio adroddiad. Yna, bydd adroddiad yr Arolygydd a’r sylwadau a roddwyd iddo’n cael eu hanfon at ein hadran noddi.
Mae angen i ni brosesu’ch gwybodaeth bersonol er mwyn i ni allu hwyluso’r broses gynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, Deddf Cynllunio 2008, Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 ac amryw ddeddfwriaethau eraill e.e. Deddf Priffyrdd 1980, ar gyfer holl waith achos Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.
Amlinellir y seiliau cyfreithlon ar gyfer prosesu yn Erthygl 6 GDPR y Deyrnas Unedig. Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn defnyddio’r seiliau cyfreithlon a fanylir yn:
Erthygl 6(1)(a) Lle mae’r cwsmer wedi rhoi ei ganiatâd i brosesu ei ddata personol at ddiben penodedig.
Erthygl 6(1)(c) Ar gyfer prosesu sylwadau ysgrifenedig a dogfennau, y sail gyfreithlon sy’n ymwneud â phrosesu sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn ddarostyngedig iddi.
Erthygl 6(1)(e) Ar gyfer prosesu sy’n ofynnol i gyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.
Erthygl 9(2)(g) Ar gyfer prosesu Data Categori Arbennig, y sail gyfreithlon yw pan fydd prosesu categorïau arbennig o ddata personol yn angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd. Mae hefyd yn ymwneud â’n tasg gyhoeddus a diogelu eich hawliau sylfaenol, ac Atodlen 1 rhan 2(6) DPA2018 sy’n ymwneud â dibenion statudol a llywodraeth.
Rydym yn casglu a phrosesu amrywiaeth o wybodaeth amdanoch, gan gynnwys:
Data categori arbennig a ddiffinnir yn Erthygl 9 GDPR y Deyrnas Unedig fel data personol yw:
Nid yw hyn yn cynnwys data personol am honiadau, achosion neu euogfarnau troseddol, gan fod rheolau ar wahân yn berthnasol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllawiau ar wahân y Comisiynydd Gwybodaeth ar ddata troseddau.
Efallai y byddwn yn prosesu ac yn storio categorïau arbennig o wybodaeth bersonol fwy sensitif sy’n ymwneud ag unrhyw unigolyn a roddir yn wirfoddol gennych chi yn rhan o’r holl broses gwaith achos cynllunio rydych eisiau iddi gael ei hystyried e.e. gwybodaeth feddygol yn ymwneud â chi eich hun, aelod o’r teulu ac, mewn rhai achosion, plentyn. Gallai’r wybodaeth bersonol a roddir gael e ei dal ar system gyfrifiadurol, neu ar gofnod papur fel mewn ffeil ffisegol.
Nid yw Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn darparu gwasanaethau’n uniongyrchol i blant nac yn casglu eu gwybodaeth bersonol yn rhagweithiol. Fodd bynnag, weithiau rhoddir gwybodaeth i ni am blant yn wirfoddol yn rhan o’r prosesau apeliadau, ceisiadau, gorchmynion ac archwiliadau. Gall hyn gynnwys data categori arbennig a roddir mewn sylwadau o bob agwedd ar waith achos.
8. Am ba mor hir rydym ni’n cadw’ch data personol?
Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol am gyhyd ag sy’n angenrheidiol i ddarparu ein gwasanaethau a chyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol yn unig. Mae gennym bolisïau a gweithdrefnau penodol ynglŷn â rheoli a chadw cofnodion, fel bod gwybodaeth bersonol yn cael ei hadolygu a’i dileu ar ôl cyfnod rhesymol gan ddilyn y meini prawf canlynol:
Yn unol â’r rheolau statudol a’r canllawiau perthnasol, mae copi o sylwadau gwaith achos fel arfer yn cael ei anfon at:
Bydd yr Arolygydd neu’r unigolyn a benodwyd yn ystyried y wybodaeth a a roddwyd yn y sylwadau ac yn gwneud ei benderfyniad. Bydd ei hysbysiad o benderfyniad yn rhoi canlyniad yr achos a’i resymau drosto.
Fel arall, pan fydd Gweinidogion Cymru ac adrannau a sefydliadau eraill y Llywodraeth yn gyfrifol am benderfynu ar yr achos, bydd yr Arolygydd yn llunio adroddiad argymhelliad. Bydd adroddiad yr Arolygydd a’r sylwadau’n cael eu darparu iddynt.
Mewn rhai amgylchiadau, fel o dan orchymyn llys, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i rannu gwybodaeth. Efallai y bydd angen i ni rannu’ch gwybodaeth bersonol â’r canlynol hefyd:
Mae’n bosibl y defnyddiwn ddarparwyr gwasanaeth trydydd parti i brosesu gwybodaeth (gweler Atodiad B am restr lawn) ar ein rhan mewn perthynas â’n gwaith achos e.e. darparu gwasanaethau technoleg gwybodaeth. Pan fyddwn yn gwneud hynny, bydd contractau’n cael eu llunio i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu yn unol â’n cyfarwyddiadau ni yn unig (oni bai ei bod yn ofynnol fel arall yn ôl y gyfraith), a bod mesurau priodol ar waith i sicrhau diogelwch gwybodaeth.
Yn ogystal, mae’n ofynnol i ni, o dan Ddeddf Cofnodion Cyhoeddus 1958 (fel y’i diwygiwyd), drosglwyddo cofnodion i’r Archifau Cenedlaethol i’w cadw’n barhaol. Gallai rhai o’r cofnodion hyn gynnwys data personol ein cwsmeriaid.
Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn i gadw’ch data’n ddiogel. Rydym wedi sefydlu systemau a phrosesau i atal mynediad at eich data neu ddatgelu eich data heb awdurdod e.e. rydym yn diogelu eich data gan ddefnyddio lefelau amrywiol o amgryptio, ac mae rheolaethau mynediad perthnasol ar waith i reoli a thrin eich gwybodaeth bersonol yn effeithiol.
Pan ddefnyddir darparwyr gwasanaeth trydydd parti, sefydlir contractau a/neu drwyddedau i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu yn unol â’n cyfarwyddiadau ni yn unig (oni bai ei bod yn ofynnol fel arall yn ôl y gyfraith), a bod mesurau priodol ar waith i sicrhau diogelwch y wybodaeth honno.
Pan fyddwch yn gwneud apêl/cais neu’n cyflwyno sylwadau ar unrhyw ran o’n gwaith achos, dylech gofio bod gofynion statudol arnom, mewn rhai achosion, i sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael yn ehangach.
Bydd hyn fel arfer yn cael ei amlinellu yn ein canllawiau, ond os oes gennych ymholiadau neu bryderon penodol ynglŷn ag achos penodol, cysylltwch â’r swyddog achos a fydd yn trafod y mater gyda PCAC.
Ydym - rhoddir rhestr o’n prosesyddion data presennol yn Atodiad B.
O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau ynglŷn â phrosesu eich data personol. Mae’r hawliau sydd ar gael i chi yn dibynnu ar y rheswm pam rydym yn prosesu’ch gwybodaeth. Nid oes rhaid i chi dalu am arfer eich hawliau. Rhoddir mis i ni ymateb i chi.
Eich hawliau o dan y GDPR (DU) yw’r hawl:
Nid yw pob un o’r hawliau hyn yn absoliwt, sy’n golygu efallai y byddant yn berthnasol mewn rhai sefyllfaoedd yn unig ac fe allent fod yn ddarostyngedig i eithriadau ac esemptiadau cyfreithiol.
Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar wefan yr ICO.
Mae’n rhaid i ddefnyddwyr Porth PCAC greu cyfrif gyda ni er mwyn cyflwyno apeliadau neu unrhyw sylwadau. Bydd cofrestru gyda ni yn eich galluogi i ddefnyddio ein hystod lawn o wasanaethau apeliadau, gan gynnwys tudalen hafan bersonol.
Hefyd, y ffordd orau o wneud sylwadau ar achos presennol yw cofrestru gyda ni yn gyntaf, gan fod hynny’n hwyluso’r broses o olrhain achosion a chyflwyno sylwadau.
{/*Mae gennym gyfleuster mewngofnodi fel gwestai os ydych eisiau cyflwyno sylwadau heb greu cyfrif; chwiliwch am eich achos a chliciwch ar y botwm ‘Cyflwyno Sylwadau’.
*/}Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn gorff cyhoeddus ac mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnom i ymateb i geisiadau a wneir o dan y deddfwriaethau hyn. Weithiau, bydd hyn yn golygu y gallai eich data personol gael ei ddefnyddio i ymateb i’r ceisiadau hyn. Os ydych yn ymgeisydd sy’n gwneud cais am wybodaeth o dan un o’r cyfundrefnau mynediad hyn, byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth i gydymffurfio â chais o’r fath. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth er mwyn gohebu â chi ac er mwyn anfon ein hymateb. Os byddwch yn gwneud cais am eich data personol eich hun (cais mynediad at ddata gan y testun), efallai y bydd angen i ni gael tystiolaeth hefyd i gadarnhau pwy ydych.
Rhestr lawn o Apeliadau, Ceisiadau, Archwiliadau a Gorchmynion y mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn ymdrin â nhw: pob math o Waith Achos PCAC.
Darperir/Ar Gael trwy’r Wefan a Dulliau Eraill
Math o Waith Achos
Diben Prosesu
Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Hysbysiad Gorfodi Adeilad Rhestredig
Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Hysbysiad gorfodi Ardal Gadwraeth
Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Hysbysiad Gorfodi
Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Gorfodi Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon
Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Cynllunio – Dirwyn Hysbyseb i Ben
Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Cynllunio – Apêl Hysbyseb
Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Cynllunio – Gwasanaeth Apeliadau Masnachol (CAS)
Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Cynllunio – Gwasanaeth Apeliadau gan Ddeiliaid Tai (HAS)
Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Cymeradwyaeth o Flaen Llaw
Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Cynllunio – Cytundeb Adran 106
Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Planning Listed Building Consent & Conservation Area Consent Appeal
Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Apeliadau Barnu’n Annilys
Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Ceisiadau yn ystod proses brosesu PCAC
Penderfyniadau ar Gostau
Apeliadau Cymru trwy’r porth Gwaith Achos Apeliadau (Porth PCAC)/ E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Apêl Gynllunio
Gwefan Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) ar gyfer Mathau o Achosion DNS neu E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Ceisiadau
Ceisiadau Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Hysbysiadau Prynu Arbenigol
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Apeliadau System Ddraenio Gynaliadwy (SUDS)
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Apeliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol (CIL)
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Gwrychoedd Uchel Arbenigol
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Gorchymyn Diogelu Coed Arbenigol
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Hysbysiadau Amnewid Coed Arbenigol
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Apeliadau SoDdGA
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Tir Halogedig
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Trwyddedu Morol
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Rheoli Gwastraff
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Tynnu Dŵr
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Apeliadau Sylweddau Peryglus
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Apeliadau Hysbysiad
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Gwrychoedd Arbenigol
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Apeliadau
Apeliadau Cyfyngiad
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Arbenigol
Hawliau Tramwy - Atodlen 14
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Ceisiadau
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Ceisiadau
Hawliau Tramwy Arbenigol – Cyfeiriadau Atodlen 14
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Ceisiadau
Meysydd Pentref Arbenigol
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Ceisiadau
Ceisiadau A 36 (Deddf Trydan 1989)
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Ceisiadau – Argymhellion
Trwyddedau Sychder
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Ceisiadau
Fforddfreintiau Angenrheidiol Arbenigol a Thocio Coed
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Ceisiadau
Tynnu Dŵr
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Archwiliadau
Cynlluniau Rheoli Adnodd Dŵr
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Archwiliadau
Cynlluniau Datblygu Lleol
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Archwiliadau
Ardoll Seilwaith Cymunedol (CIL)
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Gorchmynion
Gorchmynion Diwygio Harbwr Orders
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Gorchmynion
Gorchmynion Sychder
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Gorchmynion
Gorchmynion y Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Gorchmynion
Gorchmynion y Ddeddf Priffyrdd
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Gorchmynion
Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Awdurdod Lleol (ALl)
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Gorchmynion
Gorchmynion Tollau Fferïau a Phontydd
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Gorchmynion
Gorchmynion Llwybrau Beiciau
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Gorchmynion
Gorchmynion Cau
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Gorchmynion
Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) yr Adran Drafnidiaeth (LlC)
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Gorchmynion
Gorchmynion Ffyrdd Ymyl
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Gorchmynion
Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA)
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Gorchmynion
Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA)
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Gorchmynion
Adolygiad o Hen Ganiatadau Mwynau (ROMPs) a Mwynau Ad-hoc
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Gorchmynion
Hysbysebion – Achosion Gweinidogion Cymru
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Gorchmynion
Addasu a Dirymu Caniatâd Cynllunio
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Gorchmynion
Gorchmynion Prynu Gorfodol (CPO) yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS)
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Gorchmynion
Gorchmynion Prynu Gorfodol (CPO) y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG)
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Gorchmynion
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Amrywiol – Archwiliadau, Gorchmynion a Cheisiadau
Ceisiadau Ad-hoc gan Lywodraeth Cymru (LlC)
E-bost/ Post/ Trydydd Partïon Allanol
Amrywiol – Archwiliadau, Gorchmynion a Cheisiadau
Yr Adran Drafnidiaeth (DfT) Meysydd Awyr
Prosesydd Data
Diben
GoPro
Platfform ar gyfer Prosesu Apeliadau Cynllunio
UK.Gov Notify
Cyfathrebu â Phartïon Allanol
Google Analytics
Monitro Gweithgarwch ar y We